Cawl a chan
Wedi siom gorfod gohirio’r noson gawl oherwydd yr eira ar Ddydd Gwyl Dewi, fe gynhaliwyd gwledd wythnos yn ddiweddarach.

Roedd Neuadd yr ysgol yn llawn i fwynhau’r wledd o ganu, llefaru a’r wledd lythrennol o gawl bendigedig wedi’i baratoi gan Sian Llether.
Bu plant ysgol gynradd Cae’r Felin yn perfformio’r darnau llefaru a chanu y maent wedi’u paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, a llongyfarchiadau cynnes i bob un!
After the disappointement of having to postpone the cawl night due to snow, it was held a week later.
The School Hall was full with people enjoying singing, reciting and feast of cawl prepared by Sian Llether.
Pupils from Cae’r Felin Primary School performed songs and recitals prepared for the Eisteddfod yr Urdd, we congratulate each one!