Noson o Adloniant Ysgafn | A night of light entertainment

Ar nos Wener, 16eg o Fehefin, trefnwyd noson o adloniant ysgafn yn Neuadd yr Ysgol. Croesawyd arweinydd arbennig y noson, sef Ifan JCB, gan Shan Phillips, cadeirydd is-bwyllgor codi arian y neuadd.

On Friday the 16th of June a light entertainment night was held at Neuadd yr Ysgol. Ifan JCB was warmly welcomed by Shan Phillips, Chair of the fund-raising sub committee.

Cymraeg

Cyflawnodd Ifan ei waith fel arweinydd gyda’i hiwmor arferol ac fe gafwyd ganddo dorraith o jocs a storiau doniol. Y prif artistiaid oedd Parti’r Gannwyll, sef grwp o ferched ifanc o gapeli’r Undodiaid yn ardal y smotyn du. Gwefreiddiwyd pawb gyda’u lleisiau swynol. Yr artistiaid eraill oedd ‘Y Drydedd Genhedlaeth’ sef tair chwaer fach ddawnus iawn o ardal Hafodwennog. Cafwyd ganddynt ganu hyfryd a dawnsio clocsen medrus.

Llywydd y noson oedd Mr Arwyn Williams, Penlan, ac yn ei araith bwrpasol, dywedodd am yr angen i gydweithio tuag at sicrhau fod neuadd yr ysgol yn llwyddo fel canolfan i’r gymdeithas mewn ardal wledig sydd bellach wedi colli ei ysgol gynradd. Diolchwyd yn fawr iawn i Arwyn am ei gyfraniad ariannol hael a diolchwyd hefyd i’w wyrion, Non a Daniel am helpu Ifan wrth iddo dynnu’r raffl. Penderfynwyd cyfrannu yr elw ddaeth o’r raffl tuag at elusen Ifan sef, Ymchwil Cancr. Gan ein bod eleni yn dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers ysgrifennu geiriau a chyfansoddi ein hanthem genedlaethol, gorffenwyd y gyngerdd drwy ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn ei chyfanrwydd gyda Mrs Sally Davies yn cyfeilio.

English

Ifan presented himself as the compere with his usual humour and told many jokes and entertaining stories. The main artists were Parti’r Gannwyll, which are a group of young girls from Unitarian Chapels of the smotyn du area. Everyone was mesmerised by their charming voices. The other artists were ‘Y Drydedd Genhedlaeth’, three talented sisters from Hafodwennog area. They sang and clog danced beautifully.

Mr Arwyn Williams, Penlan, was the President of the night and in his purposeful speech, expressed the need for co-operation to ensure that the school hall will thrive as a centre for the community in a rural area without a primary school. Arwyn was thanked for his generous donation and his grandchildren were also thanked for helping Ifan with the raffle. It was decided that the proceedings from the raffle would be given to Ifan’s charity of Cancer Research.This year we are celebrating a hundred and fifty years since the composing and writting of the national anthem, therefore the concert was closed by singing ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ in full with Mrs Sally Davies accompaning on piano.

Comments are closed.



Parse error: parse error, unexpected '<' in /share/storage/02/ll/llanfihangel/wordpress/wp-content/themes/cymraeg/footer.php(18) : eval()'d code(1) : eval()'d code on line 2