Ffair Nadolig - Christmas Fair
Cafwyd digwyddiad llwyddiannus tu hwnt yn Neuadd yr Ysgol ar noson oer o Ragfyr pan ddaeth tyrfa ynghyd i fwynhau clonc dros baned a chacen; prynu a gwerthu a chwarae gemau a drefnwyd ar gyfer y Ffair Nadolig flynyddol. Leisa Thomas, sydd rai misoedd oed, oedd yr ieuengaf yno ar y noson, tybed a yw hyn yn record? Roedd yn braf gweld cymaint o blant yn bresennol ac yn mwynhau cwmni ei gilydd.
Er mor siomedig oedd clywed am anhwylder y wraig wadd, Mrs Olive Marks, salwch a olygodd nad oedd yn bosib iddi fod yn bresennol, gwerthfawrogwyd yn fawr ei chyfraniad hael i’r noson. Fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Llanfihangel ar Arth, mae Mrs Marks bob amser yn gefnogol i’r digwyddiadau a drefnir yn Neuadd yr Ysgol, a mynegwyd gwerthfawrogiad i’w chefnogaeth gan y rhai a ddaeth ynghyd ar y noson.
Casglwyd £1,550.70, swm sy’n codi calon Pwyllgor Cymdeithas Neuadd yr Ysgol, gan ei fod yn dangos y gefnogaeth sydd i’r Neuadd, canolfan gymdeithasol sydd mor bwysig i’r pentref ac i’r ardal.