NOSON O CHWERTHIN GYDA CHWMNI TROED Y RHIW

Y Neuadd yn llawn, a’r chwerthin i’w glywed lawr yn yr Eagles, arwyddion clir bod Cwmni Troed y Rhiw wedi llwyddo unwaith yn rhagor gyda’r cynhyrchiad Eisteddfod Cwmffradach. Fel mae’r teitl yn awgrymu, fel eisteddfod ro’dd hon yn un i’w hosgoi a dweud y gwir, ond cafwyd AMBELL i berfformiad gwerth ei chlywed, fel adroddiad hyfryd Suan, canu cyfareddol Llyr a Kees, digrifwch Ken ac Amy yn rhoi perfformiad graenus iawn ar y ffliwt. Roeddent i gyd yn cynrychioli’r gore sydd gennym yn yr ardal a’r gynulleidfa yn ymhyfrydu yn eu dawn. Ond, o diar, dyna blant drwg oedd gan ein hymwelwyr, ac yn anffodus doedden nhw ddim yn ddawnus iawn chwaith! Gwell peidio son gormod am eu perfformiadau. Adrodd? Nage wir, roedd yn debycach i falu geirie, a’r cantorion, wel, udo fydde’r disgrifiad gore o’r swn a ddaeth o’u gene! Ro’dd yn ffantastig! Noson o hwyl a chwerthin braf – dyna oedd ymateb gwerthfawrogol y gynulleidfa!

Ymateb Ffred i’r noson: perspectif ychydig yn wahanol oedd gen i gan mod i’n sefyll wrth y drws. Y broblem oedd gen i oedd nad oeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd i fod i dalu a phwy oedd ddim i dalu gan mod i ddim yn hollol siwr os oedd pobl yn cyrraedd yn perfformio neu beidio! Nath e daro fi wedyn mai fel yna y dylai hi fod. Nid ystyr diwylliant yw fod un criw o bobl yn gwrando ar griw arall o bobol yn mynd trwy eu pethe. Roedd pawb yn y neuadd yn cyfrannu at ddiwylliant y noson – diolch i bawb. Yn anffodus, mae’r cyfri’n mynnu ein bod ni’n gorfod gofyn am arian gan rywrai!!

This entry was posted in Newyddion | News. Bookmark the permalink.

Comments are closed.