HOLL LIWIE’R ENFYS
Mae Sharon Morgan, yr actores adnabyddus, yn wreiddiol o Sir Gâr, ac mae’n dychwelyd i’w sir genedigol i gyflwyno ei sioe Holl Liwie’r Enfys yn Llanfihangel-ar-Arth nos Sadwrn 9fed Mehefin am 7.30. Peidiwch a cholli cyfle i weld sioe arbennig iawn.
ALL THE COLOURS OF THE RAINBOW
Sharon Morgan, the well-known actress, who is originally from Sir Gâr, will return to her roots to perform her show Holl Liwie’r Enfys (All the Colours of the Rainbow) in Neuadd yr Ysgol at 7.30 Saturday 9th June.
Bydd rhai yn cofio Sharon yn y ffilm Grand Slam gyda Dewi Pws a Hugh Griffith yn 1978. Hugh Griffith, wrth gwrs, wedi ennill Oscar am ei ran yn Ben Hur rai blynyddoedd ynghynt. Mae gyrfa deledu a llwyfan Sharon yn un y byddai unrhyw actor yn falch ohono yn y ddwy iaith, neu’n hytrach tair iaith, gan ei bod yn siarad Ffrangeg yn Grand Slam! Mae wedi disgleirio yn y rhannu bach a’r rhai mawr mae wedi ymgymryd â nhw. Pwy na all gofio am y fam yn Tair Chwaer ar S4C, rhan yr enillodd gwobr Bafta Cymru amdani, dyma un o’r cyfresi drama gore fu ar y sianel;hi oedd y patholegydd yn Mind to Kill; yn fwy diweddar chwaraeodd ran Delyth Mostyn yn Midsomer Murders.
Gweithiodd gyda nifer o gwmniau theatr fel Theatr Cymru, Hwyl a Fflag, Bara Caws, Made in Wales….. mae’r cynhyrchiadau y bu hi ynddyn nhw yn rhy niferus i’w rhestri, ond mae ei gwaith bob amser yn gaboledig a chredadwy ac felly d’yw hi ddim yn syndod bod ganddi lu o edmygwyr. Ac mae’r amryddawn Sharon yn dangos un arall o’i doniau gyda’r sioe yma gan taw hi yw awdur Holl Liwie’r Enfys.