NOSON I’W CHOFIO GYDA SHARON MORGAN

Cafwyd noson wych yn Neuadd yr Ysgol nos Sadwrn 9fed Mehefin yng nghwmni Sharon Morgan un o’n hactoresau gore. Ro’dd Holl Liwie’r Enfys yn sioe am fagwraeth menyw ifanc yn Sir Gâr yn y 50au a’r 60au ac yn cyfeirio at gymeriadau yn Llandyfaelog, yr ardal lle magwyd Sharon. Ro’dd y sioe wedi apelio at yr ifanc a’r rhai hÅ·n yn y gynulleidfa – prawf clir o ddawn Sharon fel awdur ac fel actores wrth gyflwyno’r cymeriade mor gelfydd. Hoson hyfryd iawn, iawn. Bu Neuadd yr Ysgol yn hynod ffodus i gael Sharon a’i chwmni Rhosys Cochion i ymweld, a ro’dd y gynulleidfa wrth ei bodd.

A NIGHT TO REMEMBER On Saturday 9th June at Neuadd yr Ysgol the audience experienced a warm and at times very funny performance by Sharon Morgan, a wonderful actress and writer of this show. She used her own memories of growing up in Llandyfaelog and presented a sensitive picture of life as a young woman in Sir Gâr in the 50s and 60s. The audience loved it.

This entry was posted in Newyddion | News. Bookmark the permalink.

Comments are closed.