Swydd ar gael

Mae Pwyllgor Neuadd yr Ysgol yn chwilio am Drefnydd ar gyfer gweithgareddau’r Neuadd ac i ddatblygu’r neuadd fel canolfan i’r gymuned gyfan.Ers i’r ysgol gau mae aelodau Pwyllgor y Gymdeithas, ynghyd a’r trefnwyr wedi gweithio’n galed i drefnu nifer helaeth o weithgareddau amrywiol yn y neuadd - fel y gellir gweld oddiwrth yr adroddiadau sydd wedi ymddangos yn y Clecs.

Nawr mae cyfle i rywun weithio dros y fenter gyffrous hon mewn swydd rhan amser a gaiff ei hariannu gan y Gronfa Loteri am 18 mis. Mae’r swydd (hunangyflogedig) yn golygu gweithio 20 awr yr wythnos am dal o £15 yr awr i ddatblygu’r defnydd o’r ganolfan drwy gysylltu a’r holl asiantaethau a’r colegau sy’n darparu cyrsiau ac ati, a bod mewn cysylltiad cyson ag aelodau’r gymuned i fesur y galw a’r ymateb. Gobeithiwn ddenu person brwdfrydig a gweithgar sy’n awyddus i weld cymuned yn adfywio a chryfhau ac sy’n gyfarwydd a defnyddio’r dechnoleg newydd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Gall unrhyw berson sydd a diddordeb anfon am daflen disgrifiad swydd oddiwrth Meinir Ffransis, Ysgrifennydd Cymdeithas Neuadd yr Ysgol, Dolwerdd, Llanfihangel-ar-Arth, Pencader, Sir Gaerfyrddin SA39 9JU (01559 384378) Bydd angen danfon CV ac i bob cais ein cyrraedd erbyn dydd Mawrth 11eg Mawrth 2008.

Comments are closed.



Parse error: parse error, unexpected '<' in /share/storage/02/ll/llanfihangel/wordpress/wp-content/themes/cymraeg/footer.php(18) : eval()'d code(1) : eval()'d code on line 2