Perfformiad Trafaelu ar y Trên Glas

Cafwyd noson arbennig yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel-ar-Arth ar nos Sadwrn 14eg o Fehefin pan wnaeth Sharon Morgan rhoi perfformiad gwych yng nghynhyrchiad Trafaelu ar y Trên Glas. Portread o gyfnod tymhestlog canol oed pan fu rhaid i fenyw wynebu herio’i chorff a’i henaint tra’n ceisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth oedd sail y ddrama yma. Diolch i bawb a wnaeth ymuno gyda ni i weld y perfformiad - yn wir dim ond cwpwl o seddi gwag oedd ar ôl. Daeth y gynulleidfa o bell ac agos a chafwyd ymateb arbennig ganddynt. Yr ydym eto yn hynod o lwcus bod Cyngor Sir Gâr o dan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi ei cefnogaeth er mwyn galluogi’r Neuadd i wahodd y perfformiad yma i’n plith. Mae nifer wedi dweud bod Neuadd yr Ysgol yn leoliad hyfryd ar gyfer perfformiadau ac yn creu awyrgylch cynnes. Gwahoddir pobl i gysylltu â ni ar e bost neuadd@llanfihangel.plus.com neu ar y ffon 01559 384 528 os hoffech gael gwybod am perfformiadau yma yn Neuadd yr Ysgol.

Comments are closed.