Lawns Llyfr Newydd – The Launch of a new book

llun3llun2Nos Wener Ionawr 16eg cafodd y llyfr newydd, Llanfihangel-ar-Arth: Hanes y Plwyf drwy Luniau, ei lansio’n swyddogol. Ar ôl cyflwyniadau byr gan aelodau’r Clwb Hanes lleol yn rhoi’r cefndir i rai o’r lluniau, roedd y llyfr wedyn ar gael i’w brynu.

On Friday January 16th the new book, Llanfihangel-ar-Arth: History of the Parish in Pictures, was officially launched. Following short presentations by members of the Local History Club giving the background to some of the photos, the book was then available for purchase.

Mae e’n cynnwys 294 tudalen, mwy na 270 â lluniau sy’n dangos bywyd ym mhob pentref yn y gymuned, yn arbennig 50 i 100 mlynedd yn ôl. Mae gan bob llun testun dwyieithog. Mae’r llyfr yn costio £8 ac mae copïau ar gael o Neuadd yr Ysgol. Llanfihangel, Calvin Griffiths 01559 384812, John Evans 01559  384758 neu Gerald Coles 01559 384987. Mae’r llyfr hwn yn cynrychioli cofnod unigryw o’r gorffennol a dylai fod o ddiddordeb mawr i frodorion a newydd-ddyfodiaid i’r ardal yn ddi-wahân.

It contains 294 pages, more than 270 with pictures showing life in all the villages in the community, particularly 50 to 100 years ago. Each photo has a bilingual caption. The book costs £8 and is available from Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, Calvin Griffiths 01559 384812, John Evans 01559 384758 or Gerald Coles 01559 384987. This book represents a unique record of the past and should be of great interest to long term residents and newcomers to the area alike.

 

This entry was posted in Newyddion | News and tagged . Bookmark the permalink.

Comments are closed.