Cyngerdd/ Concert – Côr Merched Glannau Gwendraeth

Bu’r cyngerdd yn Eglwys St Mihangel Llanfihangel ar Arth ar y 1af o Fai yn noson hyfryd. Cafwyd perfformiadau ysblenydd gan Gôr Merched Glannau Gwendraeth thema eu perfformiad oedd cariad a’n swynwyd gyda’u amrywiaeth eang.
The concert at St Michaels Church Llanfihangel-ar-Arth on the 1st of May was a wonderful evening. Côr Merched Glannau Gwendraeth gave an enchanting performance during their varied programme based on the theme of love.

Gwnaeth Emyr Felingwm (eu unawdydd am y noson) greu awyrgylch gwych gyda’i lais odidog. Cafwyd geiriau pwrpasol iawn a cyfraniad hael gan Llywydd y noson Keith James roedd ei famgu yn ferch i William Davies perchennog Ffatri Wlan Dolbantau a wnaeth ei fam fynychu Ysgol Llanfihangel ar Arth. Bu ei Dadcu yn Ficer yn Llanllawddog a phenderfynwyd ei wahodd yn Lywydd gan ei fod yn gyn Prif Weithredwr o gwmni cyfreithwyr Eversheds a bu yn ein helpu i sicrhau dyfodol Neuadd yr Ysgol. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i aelodau’r Pwyllgor a bu’n brysur yn paratoi lluniaeth ar gyfer y Côr. Diolch hefyd i bawb am gefnogi’r raffl fawr yn enwedig i garej Mansel Griffiths a’i fab am noddi’r raffl.

 

Their soloist for the evening Emyr Felingwm created a magnificent atmosphere with his splendid voice. Thank you to everyone who supported the evening and to the members of the committee who provided the splendid food for the choir. Thank you also to all those who supported the raffle especially Mansel Griffiths and Son Garage who sponsored the raffle.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

This entry was posted in Newyddion | News. Bookmark the permalink.

Comments are closed.