EISTEDDFOD LLANFIHANGEL
Eisteddfod Llanfihangel ar Arth 2010
Caiff yr Eisteddfod ei chynnal yn Neuadd yr Ysgol ddydd Sadwrn 27ain Chwefror 2010 gan ddechrau am 12.00 o’r gloch. Bydd te a byr-brydau ar werth yn y prynhawn wrth ichi wrando ar gystadlaethau’r rhai ifanc ac astudio’r arddangosfa o waith ysgrifenedig a celf. Ac yn yr hwyr, ynghyd a chystadlaethau’r oedolion bydd seremoni cadeirio gwerth ei gweld. Mae croeso mawr i bawb, dewch i ymuno yn y mwynhad. Rhaglen Y Dydd Eisteddfod Llanfihangel 2010 (DOC)
The Eisteddfod will be held at Neuadd yr Ysgol on Saturday 27th February 2010 starting at 12.00 o’clock. Tea and snacks will be on sale in the afternoon as we listen to the children and young people competing and take a chance to view the exhibition of written and art work. During the evening, when the adults will compete, we will also see the ceremony for the chairing of the bard. Everyone is welcome, come and enjoy the atmosphere. Llanfihangel Eisteddfod Program 2010 (DOC)
Eisteddfod Llanfihangel ar Arth 2009
‘Roedd Neuadd yr Ysgol Llanfihangel yn llawn rhan helaeth yr amser Ddydd Sadwrn Chwefror 2009 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod leol. Aeth gweithgareddau ymlaen am bron 11 awr a chystadlodd cyfanswm o 40 unigolyn, plant ac oedolion. Hanna Davies Gwyddgrug enillodd Cwpan Her Brownhill am y perfformiad mwyaf addawol gan blant lleol o oedran ysgol gynradd.Ceisiodd mwy na 150 o blant cystadleuaeth Celf a Llawysgrfen a derbyniodd Iolo Thomas Pencader Gwpan Coffa Heledd Griffiths am y gwaith celf gorau gan blant mewn ysgolion cynradd am ei ‘collage’ ‘Ar y Fferm’.
Gwnaeth Valerie Davies Pont Tyweli gyflwyno tarian i Adran Urdd Llanfihangel enillwyr cystadleuaeth Parti Canu Ysgol Gynradd. Enillwyd Cwpan Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn y sesiwn agored gan Elin Jones Maesycrugiau. Gwobrwywyd y gadair am y darn gorau o farddoniaeth i Mr T Graham Williams Cwm Tawe am ei delyneg. Hefyd fe enillodd Cwpan Goffa Gwylim Walters am y rhyddiaith orau gyda’i stori fer.
Enillodd Sioned Davies Gwyddgrug, Darian Teulu Gwenllan a Gwbr y Garthen am y darn gorau o ysgrifennu gan rywun o oedran ysgol. Mae Sioned ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Cae’r Felin.
Eleni gwobrwywyd Cwpan Coffa Parch Noel James i Ddysgwr y Flwyddyn i Mary Thomason, Pencader. Mae Mary wedi byw yn y pentref am fwy na 30 mlynedd. Yn ogystal a dysgu Cymraeg roedd hi’n Gynghorydd Cymunedol am 4 blynedd ac wedi bod yn ysgrifennydd CGDP am 6 blynedd. Cyflwynwyd y wobr iddi gan Mrs Molly James gweddw Noel. Dyma’r ddolen i fwy o ganlyniadau Canlyniadau Eisteddfod Llanfiihangel-ar-Arth 2009 (DOC)
Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad mewn unrhyw ffordd a helpu’i wneud y fath lwyddiant, ein llewyddion Dr a Mrs Edwards y beirniaid, cyfeilydd, y stiwardiaid, Vernon Thomas am wneud y gadair gyflwyno fach, y cystadleuwyr, y rhai a ddaeth y rhai a gyfranodd yn ariannol a Chegin Fach y Wlad am ddarparu lluniaeth. Rydym yn gobeithio y bydd 2010 yn lwyddiant hefyd.
Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar Arth was full most of the time on Saturday the 28th of February when the local Eisteddfod was held. Activities went on for nearly 11 hours. A total of 40 individuals, including children and adults competed. Hanna Davies of Gwyddgrug won the Brownhill Challenge Cup for the most promising performance by local children of primary school age.
More than 150 children tried the Art and Handwriting competitions and Iolo Thomas of Pencader received the Heledd Griffiths Memorial Cup for the best work of art by a primary age pupil for his collage ‘On the Farm’. Valerie Davies Pont Tyweli presented the shield for the winners of the primary School singing competition which was won by Adran Urdd Llanfihangel ar Arth.
The Western Power Cup for the most promising performance in the open section was won by Elin Jones of Maesycrugiau. The Chair for the best poetry was awarded to Mr T Graham Williams, Cwm Tawe for his Telyneg. He also won the Gwylim Walters Memorial Cup for the best prose with his short story.
Sioned Davies Gwyddgrug won the Gwenllan Family Shield and Garthen Prize for the best piece of writiing be someone of school age. Sioned is in year 6 of Ysgol Cae’r Felin. This year the Rev Noel James Memorial Prize for the Learner of the Year was awarded to Mary Thomason, Pencader. Mary has lived in the village for over 30 years. In addition to learning Welsh she was a Community Councillor for 4 years and was secretary of the PIDA for 6 years. She was presented with the award by Mrs Molly James (Noel’s Widow).
The committee would like to thank everyone who supported the event in any way and helped make it such a success our presidents Dr and Mrs Edwards, the judges, accompanist, the stewards, Vernon Thomas for making the small presentation chair, the competitors, those who supported on the day and those who contributed financially and Cegin Fach y Wlad for providing refreshments. We hope that 2010 will be an equal success.





