Y PENTREF | THE VILLAGE


Llanfihangel-ar-Arth yw’r pentref mwyaf gogleddol yn y cymuned, cyfagos i Afon Teifi. Mae ei enw yn dod o eglwys y plwyf, Sant Mihangel, a sefydlwyd yn y chweched ganrif, yn ôl pob tebyg.
Defnyddiwyd tolldy yn y pentref yn y degawd 1840-1850 i gasglu tollau o deithwyr a digwyddodd un o derfysgoedd Rebecca yno pan ddinistriwyd y glwyd gan 150 o bobl ym mis Mehefin, 1843. Adeilad un llawr oedd y tolldy a nawr defnyddir ef fel byngalo.
Aeth y rheilffordd o Gaerfyrddin i Lanbedr-Pont-Steffan drwy Lanfihangel a gafodd ei orsaf ei hun. Ond caewyd hi ar gyfer deithwyr yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Nawr dim ond rhan y trac sydd ar ôl. O’r 1840au i’r 1920au defnyddiwyd rhai o dai’r pentref fel gweithdai gwau pan oedd y diwydiant gwlân yn bwysig yn yr ardal.
Yng nghyfrifiad 2001 roedd poblogaeth Plwyf Llanfihangel ar Arth (sy’n cynnwys pentrefi cyfagos) yn 2,727 gyda 50% yn wryw a 50% yn fenyw.
Lleolir y pentref presennol o gwmpas cyffordd y B4336 rhwng Llanllwni a Llandysul o’r dwyrain i’r gorllewin a’r B4459 rhwng Capel Dewi i Bencader o’r gogledd i’r de.
Yn ogystal â’r eglwys, mae dau dafarn cyfeillgar ac ysgol a agorywd yn 1864 ond caewyd yn 2003 ac nawr mae hi’n gwasanaethu fel canolfan gymunedol. Mai rhai busnesau bach yn y pentref ynghyd â storfa bwrdd trydan. Mae’r rhain yn ogystal ag amaethyddiaeth yn darparu cyflogaeth yn yr ardal. Mae gan y pentref garnifal blynyddol a chynhelir rhan yr wyl Bibau Pencader yn yr eglwys.
Mae pentref Llanfihangel ar Arth wedi newid llawer ers gau’r Ysgol yn 2003. Ers hynny mae’r siop bentref a’r Swyddfa Post wedi cau. Bellach, Neuadd yr Ysgol yw canolbwynt y pentref ac sy’n rhoi’r egni i gadw ein cymuned yn fyw.
Sgwar Llanfihangel-ar-Arth - Village Crossroads

O gyfeiriad Llandysul | Entering village from Llandysul

Dyma dafarn yr Eryr | The Eagle Inn

Dyma dafarn Pwll Dwr | The Cross Inn


Llanfihangel ar Arth is the most notherly village in the community, nearest the river Teifi. It is believed that the village’s name derives from the name of parish’s church, Sant Mihangel, which was established in the 6th century.
There was a tollhouse in the village during 1840-1850 to collect tolls from travellers and one of the Rebecca Riots occured here when the gate was destroyed by 150 people in June, 1843. It was a one level building and now it is a residential bungalow.
The railway from Carmarthen and Lampeter travelled through Llanfihangel ar Arth, which later had its won station. But the station was closed for travellers in the 1960s. Today there’s only part of the track left. From 1840s to 1920s many of village houses were used as woolen workshops when the wool industry was important in the area.
The resident population of the parish of Llanfihangel-ar-Arth (includes surrounding villages), as measured in the 2001 Census, was 2,727 of which 50% were male and 50% were female.
The village is located around the B4336 between Llanllwni and Llandysul from the east to west amd the B4459 between Capel Dewi and Pencader from the north to south.
As well as the Church, the village has two friendly pubs and a school that opened in 1864 but was later closed in 2003 and the school now acts as a community centre. There are quite a few small businesses and the electricity board store. Agriculture along with the aformentioned buisnesses supply employment in the area. The village has an annual carnival and part of Gwyl Bibau Pencader is held at the Church.
Since the closure of the School in 2003 a lot has changed in Llanfihangel ar Arth village. The village shop and Post Office have also closed. Hence, the School Hall is the centre of the village and gives energy to keep our community alive.
