Pwyswch ar y ddolen ganlynol i ddarllen stori am y Grwp Hanes oddi ar wefan BBC Cymru’r Byd – Fe ymddangosodd y stori gyntaf ym mhapur Bro y Garthen.
Press on the following link to read a story about the History Club from BBC Cymru’r Byd (Welsh only) – Thw story originally appeared in Local paper ‘Y Garthen’.
Map Hanesyddol y Plwyf | Parish Historical Map
Mae copïau Map Hanesyddol y Plwyf yn dal i fod ar gael am £3 yr un a 50c am gyfieithiad Saesneg y testun. Ffoniwch Margaret Bowen 362215 neu Gerald Coles 384987.
Copies of the Parish Historical Map are still available for £3 each and 50p for an English translation of the text. Contact Margaret Bowen 362215 or Gerald Coles 384987.

Llanfihangel ym 1891 | Llanfihangel in 1891
Dyma sut yr oedd Llanfihangel ar Arth yn edrych yn 1891. Mae smotyn coch lle mae Neuadd yr Ysgol. Pwyswch ar y llun isod am fersiwn manwl mwy o faint. Oddi ar wefan www.old-maps.co.uk.
Here is how Llanfihangel ar Arth looked back in 1891. A red dot is placed at the site of Neuadd yr Ysgol. Please click on the image below for a large detailed version. From www.old-maps.co.uk
Rhai o enwogion y plwyf | Famous people from the Parish
Sara Jacob – Llethr Neuadd yw enw’r fferm lle bu farw Sara Jacob yn 1869 ar ôl i’w theulu honni iddi ymprydio am ddwy flynedd. Gwelir ei bedd ym mynwent eglwys y pentref.
Sara Jacob – Died in 1869 after her family claim she fasted for two years. The family lived at Llethr Neuadd Farm. Sara Jacob’s grave may be seen in the church graveyard.
Christmas Evans – Daeth Christmas Evans, 1766 – 1838 yn wreiddiol o Ddyffryn Llynod, Llandysul. Arv ôl marwolaeth ei dad pan oedd e’n naw mlwydd oed, symudodd i fyw ar fferm Bwlchog, fferm ei ewythr yn Llanfihangel ar – Arth. Pan oedd e’n 17 oed, dechreuodd weithio ar ffermydd eraill yn yr ardal. Rhywbryd tua’r un amser collodd ei lygad dde. Ymunodd â’r Bedyddwyr yn 1787 a daeth yn weinidog yn yr enwad hwn mewn sawl man yng Nghymru. Gwnaeth lawer o deithiau pregethu drwy Dde Cymru. Enillodd enw fel y pregethwr grymusaf yr oes.
Christmas Evans (1766 – 1838) - He was originally from Dyffryn Llynod, Llandysul. After his father died when he was 9 years old he moved to live on Bwlchog, his uncle’s farm in Llanfihangel ar Arth. When he was 17 years old he started working on other farms in the area. Also around this time he lost his right eye. He joined with the Baptists in 1787 and he became a reverend working in several places across Wales. He toured around South Wales preaching. He was declared as the most powerful preacher of the age.
Gwrtheyrn -Yn ôl traddodiad lleol, Craig Gwrtheyrn oedd lle bu farw Gwrtheyrn yn y bumed ganrif. Cafodd ei hela ar draws y wlad gan benaethiaid eraill a Sant Garmon nid oherwydd iddo wahodd y Saeson i Brydain ond achos ei ymddygiad gwarthus. Amgylchynwyd y fryngaer gan ei elynion a gweddiodd Sant Garmon a’i offeiriaid am dri diwrnod. Wedyn syrthiodd tân o’r nefoedd a losgodd y gaer a bu farw pawb ynddi yn cynnwys Gwrtheyrn.
Gwrtheyrn – As told by local legend, Gwrtheyrn died in Craig Gwrtheyrn in the 5th century. He was hunted across the country by other chiefs and St Garmon, but not because he invited the English into Britain but because of his awful behaviour. His enemies surrounded the hill fort and St Garmon and his priest prayed for 3 days. Then, a ball of fire fell from heaven and burnt the fort and everyone inside died including Gwrtheyrn.
Craig Gwrtheyrn
Mae Craig Gwrtheyrn yn fryngaer o Oes yr Haearn. Mae coed yn cuddio’r fryngaer erbyn hyn, ond byddai bwrlwm mawr yno tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl y traddodiad cysylltir y fryngaer â Gwrtheyrn (a elwir hefyd yn Vortigern), a oedd yn frenin grymus ar y Brythoniaid yn ystod y bumed ganrif O.C.. Mae rhai yn ei gofio fel y brenin a oedd wedi gwahodd y Sacsoniaid i Ynysoedd Prydain ac a gollodd ei deyrnas o ganlyniad i hynny. Dywedir taw Craig Gwrtheyrn yw Caer Guorthigirn, a godwyd gan Gwrtheyrn; y gaer honno hefyd oedd ei gadarnle olaf lle cafodd ei ladd gan daranfollt am ei bechodau! Pwyswch ar un o’r lluniau isod i weld fersiwn mwy o faint.
Craig Gwrtheyrn, now hidden by trees, is the site of an Iron Age hillfort. It was lived in over 2000 years ago. The hillfort is traditionally associated with Gwrtheyrn (also known as Vortigern), a powerful king of the Britons during the 5th century AD. He is sometimes remembered as the ruler who invited the Saxons into Britannia and lost his kingdom as a result. Craig Gwrtheyrn is said to be the fort of Cair Guorthigirn, built by Vortigern and also his last refuge, where he was killed by a lightning bolt for his sins! Click on one of the following images to enlarge.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y clwb yma, cysylltwch a Gerald Coles ar 01559 384987.
If you would like any more information contact Gerald Coles on 01559 384987.
