Eisteddfod Llanfihangel

CLiciwch yma i weld Rhaglen 2011 Eisteddfod Llanfihangel ar Arth!!

Eisteddfod Llanfihangel ar Arth 2010

View Mared.JPG in slide showRoedd Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, dan ei sang Ddydd Sadwrn Chwefror 27ain pan gynhaliwyd yr Eisteddfod leol  a pharhaodd y cystadlaethau tan 10.30yh. Cystadlodd mwy na 50 o unigolion, plant ac oedolion. Mared Phillips, Llanfihangel, enillodd Cwpan Her Brownhill am y perfformiad mwyaf addawol gan blant lleol o oedran ysgol gynradd.

View Gwion.JPG in slide show

Ceisiodd mwy na 150 o blant y cystadlaethau Celf a Llawysgrifen a derbyniodd Gwion Evans, Llanllwni, cwpan Coffa Heledd Griffiths am y gwaith celf gorau gan blentyn mewn ysgol gynradd am ei lun ‘Dyma fi’.

View Tarian Va...JPG in slide showCyflwynodd Valerie Davies, Pont-Tyweli, darian her i enillwyr cystadleuaeth Parti Canu Ysgol Gynradd. Fe’i henillwyd gan Yr Adar o Adran yr Urdd, Llanfihangel.

Enillwyd Cwpan Her Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn y sesiwn agored gan Lois Thomas, Pencader. Enillodd Lois y gystadleuaeth Canu Emyn Ysgol Uwchradd. Gwobrwywyd y gadair am y darn gorau o farddoniaeth i’r Parch Beti Wyn James, Caerfyrddin, am ei Cherdd Rydd. Enillodd Gerald Coles, Pencader, Gwpan Goffa Gwilym Walters am y rhyddiaith orau am ei stori fer.  Mrs Greta Walters a wnaeth gyflwyno’r cwpan.

Penderfynwyd bod Gethin Lewis, Pwll Trap, wedi ysgrifennu’r darn gorau gan rywun o oedran ysgol ac felly enillodd Tarian Her Teulu Gwenllan a Gwobr y Garthen. Catrin Davies o deulu Gwenllan a wnaeth gyflwyno’r darian i Gethin. Mae e’n gobeithio nawr mynd i Guildhall, Llundain, i astudio llais.

Eleni gwobrwywyd Cwpan Coffa’r Parch Noel James i Ddysgwr y Flwyddyn i John Beck, Gwyddgrug. Symudodd John a’i wraig Christine i’r ardal ychydig o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal â dysgu Cymraeg yn frwd, roedd yn Drysorydd y Gr?p Adfywiad am 2 flynedd ac mae e’n un o arweinyddion y gr?p cerdded, Llwybrau Bro Cader.

Hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad mewn unrhyw ffordd a helpu’i wneud y fath lwyddiant, ein llywyddion, Barbara a Vaughan Davies, y beirniaid, y cyfeilydd, y stiwardiaid, Elfyn Bowen am wneud y gadair gyflwyno fach, y ffotograffydd swyddogol, y cystadleuwyr, y rhai a ddaeth i wrando, y rhai a gyfrannodd yn ariannol a Robert am ddarparu’r lluniaeth. Rydym yn gobeithio y bydd 2011 yn llwyddiant cyfartal hefyd.

Y cystadleuydd ieuengaf oedd Leusa Thomas, Llanfihangel, sy’n 3 a hanner oed, a enillodd yr Unawd Meithrin a Derbyn am ganu ‘Mi welais Jac y Do’. Yn amlwg mae deunydd seren ynddi!

Cynhelir yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 5ed 2011.

View Mared.JPG in slide showIt was standing room only in Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, on Saturday February 27th when the local eisteddfod was held and the competitions continued to 10.30pm. More than 50 individuals, children and adults, competed. Mared Phillips won the Brownhill Challenge Cup for the most promising performance by local children of primary school age.

View Gwion.JPG in slide showMore than 150 children tried the Art and Handwriting competitions and Gwion Evans, Llanllwni, received the Heledd Griffiths Memorial Challenge Cup for the best work of art by primary school children for his painting ‘This is me’.

View Tarian Va...JPG in slide showValerie Davies, Pont-Tyweli presented a challenge shield for the winners of the Primary school Singing party competition. This was won by Yr Adar from the Urdd Club, Llanfihangel.

The Western Power Challenge Cup for the most promising performance in the open session was won by Lois Thomas, Pencader. Lois won the hymn singing for secondary schools competition. The chair for the best piece of poetry was won by the Rev Beti Wyn James, Carmarthen, for her free verse. Gerald Coles, Pencader, won the Gwilym Walters Memorial Challenge Cup for the best piece of prose with his short story. Mrs Greta Walters presented the cup.

Gethin Lewis, Pwll Trap, was judged to have written the best piece by someone of school age and won the Gwenllan Family Challenge Shield and the Garthen Prize. Catrin Davies from the Gwenllan family presented Gethin with his prize. He now hopes to go to the Guildhall, London, to study singing.

This year the Rev Noel James Memorial Prize for the Learner of the Year was awarded to John Beck, Gwyddgrug. John and his wife Christine, moved to the area a few years ago. As well as actively learning Welsh, he was Treasurer of the Regeneration Group for 2 years and is one of the leaders of the walking group, Llwybrau Bro Cader.

The committee would like to thank everyone who supported the event in any way and helped make it such a success, our presidents Barbara and Vaughan Davies, the judges, accompanist, the stewards, Elfyn Bowen for making the small presentation chair, the official photographer, the competitors, those who came to listen, those who contributed financially and Robert for providing refreshments. We hope 2011 will be an equal success.

Finally, the youngest competitor in the Eisteddfod was Leusa Thomas, Llanfihangel, aged 3 and a half, who won the Nursery and Reception Solo for singing ’Mi welais Jac y Do’.  Clearly a star in the making!

The Eisteddfod will be held next year on Saturday, March 5th 2011.

Eisteddfod Llanfihangel ar Arth 2009

Parti Canu Adran Urdd Llanfihangel ar Arth
Parti Canu Adran Urdd Llanfihangel ar Arth

‘Roedd Neuadd yr Ysgol Llanfihangel yn llawn rhan helaeth yr amser Ddydd Sadwrn Chwefror 2009 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod leol. Aeth gweithgareddau ymlaen am bron 11 awr a chystadlodd cyfanswm o 40 unigolyn, plant ac oedolion. Hanna Davies Gwyddgrug enillodd Cwpan Her Brownhill am y perfformiad mwyaf addawol gan blant lleol o oedran ysgol gynradd.Ceisiodd mwy na 150 o blant cystadleuaeth Celf a Llawysgrfen a derbyniodd Iolo Thomas Pencader Gwpan Coffa Heledd Griffiths am y gwaith celf gorau gan blant mewn ysgolion cynradd am ei ‘collage’ ‘Ar y Fferm’.

Yvonne Griffiths yn cyflwyn cwpan coffa Heledd Griffiths i Iolo Thomas
Yvonne Griffiths yn cyflwyno cwpan coffa Heledd Griffiths i Iolo Thomas

Gwnaeth Valerie Davies Pont Tyweli gyflwyno tarian i Adran Urdd Llanfihangel enillwyr cystadleuaeth Parti Canu Ysgol Gynradd. Enillwyd Cwpan Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn y sesiwn agored gan Elin Jones Maesycrugiau. Gwobrwywyd y gadair am y darn gorau o farddoniaeth i Mr T Graham Williams Cwm Tawe am ei delyneg. Hefyd fe enillodd Cwpan Goffa Gwylim Walters am y rhyddiaith orau gyda’i stori fer.

Enillodd Sioned Davies Gwyddgrug, Darian Teulu Gwenllan a Gwbr y Garthen am y darn gorau o ysgrifennu gan rywun o oedran ysgol. Mae Sioned ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Cae’r Felin.

Greta Walters yn cyflwyno Cwpan Coffa Gwylim Walters i Graham Williams Cwm Tawe
Greta Walters yn cyflwyno Cwpan Coffa Gwylim Walters i Graham Williams Cwm Tawe

Eleni gwobrwywyd Cwpan Coffa Parch Noel James i Ddysgwr y Flwyddyn i Mary Thomason, Pencader. Mae Mary wedi byw yn y pentref am fwy na 30 mlynedd. Yn ogystal a dysgu Cymraeg roedd hi’n Gynghorydd Cymunedol am 4 blynedd ac wedi bod yn ysgrifennydd CGDP am 6 blynedd. Cyflwynwyd y wobr iddi gan Mrs Molly James gweddw Noel. Dyma’r ddolen i fwy o ganlyniadau Canlyniadau Eisteddfod Llanfiihangel-ar-Arth 2009 (DOC)

Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad mewn unrhyw ffordd a helpu’i wneud y fath lwyddiant, ein llewyddion Dr a Mrs Edwards y beirniaid, cyfeilydd, y stiwardiaid, Vernon Thomas am wneud y gadair gyflwyno fach, y cystadleuwyr, y rhai a ddaeth y rhai a gyfranodd yn ariannol a Chegin Fach y Wlad am ddarparu lluniaeth. Rydym yn gobeithio y bydd 2010 yn lwyddiant hefyd.

Hannah Davies Gwyddgrug gyda'r Beirniad Yvonne Ffransis
Hannah Davies Gwyddgrug gyda’r Beirniad Yvonne Ffransis

Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar Arth was full most of the time on Saturday the 28th of February when the local Eisteddfod was held. Activities went on for nearly 11 hours. A total of 40 individuals, including children and adults competed. Hanna Davies of Gwyddgrug won the Brownhill Challenge Cup for the most promising performance by local children of primary school age.

More than 150 children tried the Art and Handwriting competitions and Iolo Thomas of Pencader received the Heledd Griffiths Memorial Cup for the best work of art by a primary age pupil for his collage ‘On the Farm’. Valerie Davies Pont Tyweli presented the shield for the winners of the primary School singing competition which was won by Adran Urdd Llanfihangel ar Arth.

Catrin Davies yn cylwyno tarian i Sioned Davies
Catrin Davies yn cyflwyno tarian i Sioned Davies

The Western Power Cup for the most promising performance in the open section was won by Elin Jones of Maesycrugiau. The Chair for the best poetry was awarded to Mr T Graham Williams, Cwm Tawe for his Telyneg. He also won the Gwylim Walters Memorial Cup for the best prose with his short story.

Sioned Davies Gwyddgrug won the Gwenllan Family Shield and Garthen Prize for the best piece of writiing be someone of school age. Sioned is in year 6 of Ysgol Cae’r Felin. This year the Rev Noel James Memorial Prize for the Learner of the Year was awarded to Mary Thomason, Pencader. Mary has lived in the village for over 30 years. In addition to learning Welsh she was a Community Councillor for 4 years and was secretary of the PIDA for 6 years. She was presented with the award by Mrs Molly James (Noel’s Widow).

The committee would like to thank everyone who supported the event in any way and helped make it such a success our presidents Dr and Mrs Edwards, the judges, accompanist, the stewards, Vernon Thomas for making the small presentation chair, the competitors, those who supported on the day and those who contributed financially and Cegin Fach y Wlad for providing refreshments. We hope that 2010 will be an equal success.

Comments are closed.