Sesiynau Drymio gyda Bongo Clive

Mai 29th, 2008

Yn ystod 3 nos Iau yn Mis Ebrill bu nifer o blant a phobl ifanc yr ardal yn cael tipyn o hwyl yn dysgu sgiliau drymio efo’r cymeriad egniol Bongo Cleif, mae’n dychwelyd i cynnig 3 sesiwn ychwanegol ar yr 5ed, 12eg a 19eg o Fehefin bydd sesiwn i blant 7 i 12 oed yn cychwyn am 5 i 5.45 a’r pobl ifanc o 5.45 hyd 6.30yh y gost bydd £1 y sesiwn.

Noson Gymdeithasol

Mai 29th, 2008

Cafwyd noson hwylus iawn yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel – ar - Arth ar nos Wener 16 o Fai. Daeth nifer ynghyd i’r Noson Gymdeithasol i godi arian at gronfa’r Neuadd yr Ysgol a diolch iddynt am ei cefnogaeth ac am haelioni. Diolch i bawb a gyfrannodd cacennau, nwyddau i’r stondynau a phlanighion i werthu. O ganlyniad casglwyd dros £1,100 swm sy’n dangos y gefnogaeth sydd i’r Neuadd fel canolfan gymdeithasol bwysig i’r pentref a’r ardal. Read the rest of this entry »

OTWARTE DRZWI - AGOR Y DRWS

Mai 13th, 2008

Cafwyd fwrlwm o weithgaredd yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar Arth ar yr 17eg o Fai pan agorwyd y drysau i groesawu Pwyliaid sydd wedi ymgartrefu yn ein plith. Daeth dros 70 o bobl ynghyd i ddigwyddiad Agor y Drws. Bu yna ddathlu diwylliant Cymreig a Phwyleg drwy blasu bwydydd iaith ac adloniant. Cafwyd nifer o’r bobl a fynychodd eu hysbrydoli gan Beata myfyrwraig o wlad Pwyl sydd yn astudio Cymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth. A wnaeth nifer cymeryd rhan mewn gwers blasu Cymraeg. Daeth y diwrnod i ben gyda gem pêl droed pan wnaeth y tîm lleol ennill o 5 gôl i 1. Gan bod y diwrnod wedi bod yn lwyddiant fydd yna cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu yn cychwyn gyda gêm arall o bêl droed ar y 7ed o Fehefin yn nghae Chwarae Llanfihangel ar Arth am 6 yh. Yr ydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol Cynllun y Milltir Sgwâr Antur Teifi a Chynllun Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr ac i Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru Prifysgol Abertawe a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr a wnaeth cyd drefnu’r digwyddiad.

More…Byddwn yn croesawu’r Pwyliaid sydd wedi ymgartrefu yn ein plith draw i’r Neuadd i ddathlu diwylliant Cymru a gwlad Pwyl ar ddydd Sadwrn 17eg o Fai. Bydd y sesiwn yn ddwyieithog gan ddefnyddio Cymraeg a Phwyleg mewn datblygiad arloesol yn y Gymru wledig ac yn dwyn y deitl ‘OTWARTE DRZWI/ AGOR Y DRWS’. Rhwng 4 a 7 yh, bydd te croeso gyda bwydydd o Gymru ac o Wlad Pwyl, adloniant traddodiadol, meithrinfa i’r plant, cyflwyniad i Gymru, Sesiwn flasu dysgu Cymraeg trwy gyfrwng y Pwyleg a chwaraeon - yn cynnwys Snwcer, tenis bwrdd a gem “ryngwladol” rhwng Cymru a Phwyl.

Bryn Gobaith

Mai 3rd, 2008

Perfformiad Bryn Gobaith gan Theatr Glass Shot Mai 3ydd – Cafwyd perfformiad gwefreiddiol gan Dora Jones a Dafydd Dafis. Serch oedd hon yn ddrama efo neges cryf ‘roedd yna hiwmor wedi phlethu thrwyddi. ‘Roedd taith y ddrama hon yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn dan adain Age Concern Cymru. Yr ydym yn ddiolchgar i Cyngor Sir Gar am ei cefnogaeth drwy gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cwmni Glass Shot o Gaerdydd yn perfformio Bryn Gobaith yn Neuadd yr Ysgol nos Sadwrn 3ydd Mai am 7.30 o’r gloch. Tocynnau ar werth gan Meinir Ffransis 01559 384378.

Glass Shot from Cardiff will perform Bryn Gobaith at Neuadd yr Ysgol Saturday 3rd May at 7.30 pm. Tickets available from Meinir Ffransis 01559 384378
More... Ma pawb yn mynd yn hen, felly pam ‘dan ni mor barod i droi cefn ar yr henoed?

Ers colli ‘i gwr mi fuodd Megan yn byw ar ‘i phen ‘i hun am flynyddoedd - yn gryf ‘i meddwl ac yn annibynol. Bellach, ar ol syrthio a brifo’i hun, ma’ hi mewn Cartre’ Gofal.

Tydi Dafydd ddim wedi’i gweld ers talwm a ma’r newid ynddi’n ‘i ddychryn o. Ma’ hi ‘di drysu’n llwyr. Ble ma’r Anti Megan oedd o’n ‘nabod? Ma’n rhaid iddo’i chael hi’n ol!

Actorion : Dora Jones a Dafydd Dafis